Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
19 Mehefin 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5667
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 2 a 4 - 9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn
ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiwn 3 ei ateb gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Gofyn i’r Gweinidog Addysg
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ymateb i faterion gweinyddol parhaus ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys y newyddion diweddar bod y Brifysgol saith mis yn hwyr yn cyhoeddi ei hadroddiad ariannol?
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
[Caiff y cwestiwn hwn ei ateb gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth]
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag Allied Bakeries yng ngoleuni cyhoeddiad y cwmni y bydd yn atal y gwaith cynhyrchu yn ei safle yn y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, gan roi 180 o swyddi mewn perygl?
Dechreuodd yr eitem am 15.29.
Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am - Dathlu 50 mlynedd o Sali Mali.
Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad am - Diwrnod Dyneiddiaeth y Byd (21 Mehefin 2019).
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Mis Pride LHDT 2019 a dathlu 20 mlynedd ers Pride cyntaf Caerdydd.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7057 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno y dylai Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Mai 2019, gael eu dirymu.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
3 |
27 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig.
NDM7068 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei ddysgu i bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddiwahan.
Cyd-gyflwynwyr
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.10
NDM7076 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi’ a gasglodd 6,148 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7071 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
2. Yn gresynu na wnaeth y DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019, er gwaethaf sawl addewid gan Lywodraeth y DU i wneud hynny, a bod 498 o ASau wedi pleidleisio i gychwyn proses Erthygl 50 i adael erbyn y dyddiad hwnnw.
3. Yn gwrthod unrhyw estyniad i aelodaeth y DU o'r UE ar ôl 31 Hydref 2019.
4. Yn nodi y gallai gadael heb fargen leihau costau bwyd, dillad ac esgidiau yn sylweddol, ac y bydd yn arbed £39 biliwn i drethdalwyr y DU.
5. Yn penderfynu y dylai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref 2019 oni bai bod yr UE, o leiaf:
a) Yn cynnig cytundeb masnach rydd cynhwysfawr i'r DU; a
b) Yn derbyn trefniadau amgen yn lle protocol Gogledd Iwerddon
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
45 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwigio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn gresynu nad yw'r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd eto.
3. Yn credu y dylid rhoi canlyniad y refferendwm ar waith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
2 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan nad yw'r Cynulliad wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig felly ei Wrthod.
Dechreuodd yr eitem am 18.50
Dechreuodd yr eitem am 18.52
NDM7069 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Tlodi yng Nghymru: Beth sy'n ei achosi a beth y gellir ei wneud i'w liniaru.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.13
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 25 Mehefin 2019